Ynghylch ein Prosiect Gobaith milfeddygol
I lawer o bobl sy'n profi digartrefedd, gall biliau milfeddygol fod yn rhan ddrud ond hanfodol o fywyd.
Credwn fod pob ci yn haeddu’r gofal sydd ei angen arnynt, beth bynnag fo’u sefyllfa.
Mae ein Prosiect Gobaith milfeddygol yn darparu gofal milfeddygol am ddim i berchnogion cŵn sy'n profi digartrefedd ledled y DU.
Y llynedd, fe wnaethom gefnogi bron i 500 o gŵn i gael mynediad at ofal milfeddygol am ddim. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ac ymrwymiad ein milfeddygfeydd partner. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â dros 100 o filfeddygfeydd ledled y DU lle gall perchnogion cŵn gael mynediad at ofal milfeddygol hanfodol ar gyfer eu cŵn.
Gofal milfeddygol ataliol
Rydym yn talu am ofal milfeddygol ataliol, gan gynnwys triniaethau chwain a dilyngyru, microsglodynnu, ysbaddu a brechiadau.
Gofal milfeddygol hanfodol a brys
Byddwn yn talu am unrhyw ofal milfeddygol hanfodol a brys i gŵn sy’n rhan o’r prosiect.
Cymorth ac arweiniad
Rydym ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm, i ateb unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'n Prosiect Gobaith.
Taliad
Unwaith y byddwn wedi derbyn yr anfoneb, byddwn yn sicrhau bod eich taliad yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl.
Os yw perchennog ci yn byw mewn ardal lle nad oes gennym ni filfeddygfa partner, byddwn yn siarad â'i filfeddygfa leol ac yn trefnu triniaeth yno.
Rydym eisiau sicrhau bod unrhyw berchennog ci sy’n profi digartrefedd, ni waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yn gallu cael gofal milfeddygol am ddim trwy ein cynllun.