Lle rydym ni’n gweithio
Mae ein Prosiect Gobaith yn gynllun ledled y DU i helpu i dalu am ofal milfeddygol i'ch ci. Credwn fod pob ci yn haeddu’r gofal sydd ei angen arnynt, beth bynnag fo’u sefyllfa.
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â milfeddygfeydd mewn dros 100 o drefi a dinasoedd ledled y DU. Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn, byddwn yn gofyn i chi fynd i un o'r milfeddygfeydd hyn i gael mynediad at ofal milfeddygol.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi yn byw yn un o'r ardaloedd hyn; byddwn yn dal i ddarparu gofal milfeddygol am ddim i chi. Byddwn yn siarad â milfeddygfa leol i weld a ydynt yn hapus i drin eich ci.
Os hoffech gael mynediad at ofal milfeddygol am ddim i’ch ci, darganfyddwch sut.
The map will load shortly. If you do not see it within a few seconds, you may be using an unsupported browser.