Ydych chi eisiau siarad gyda ni?
Mae triniaeth filfeddygol yn rhan hanfodol, ond drud, o fod yn berchen ar gi. Rydym yn deall y gall arian fod yn brin pan fyddwch hefyd yn profi digartrefedd. Dyna pam rydym wedi sefydlu cynllun ar gyfer y DU gyfan i helpu i dalu am ofal milfeddygol i'ch ci. Oherwydd credwn fod pob ci yn haeddu'r gofal sydd ei angen arnynt, beth bynnag fo'u sefyllfa.
Sut gallwn ni helpu
Gallwn eich cefnogi gyda chostau milfeddygol eich ci os ydych chi yn y DU ac yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, fel wedi cael gorchymyn troi allan, gyda dyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent neu’n cael cymorth gan eich awdurdod lleol dan y ddyletswydd 56 diwrnod i atal digartrefedd.
Byddwn yn talu 100% o’r gost o driniaethau milfeddygol ataliol, yn ogystal ag unrhyw driniaethau hanfodol a brys sydd eu hangen ar eich ffrind ffyddlon.
Lle rydym ni’n gweithio
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â milfeddygfeydd mewn dros 100 o drefi a dinasoedd ledled y DU, sy’n golygu nad ydych byth yn rhy bell o gymorth.
A hyd yn oed os nad ydych chi'n digwydd byw yn un o'r ardaloedd hyn, byddwn ni'n dal i'ch helpu chi i gael mynediad at ofal milfeddygol am ddim.
Sut i gael mynediad at ofal milfeddygol am ddim
Os ydych eisoes yn cael cymorth drwy wasanaeth digartrefedd sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gallent wneud cais ar eich rhan.
Os na, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol i gofrestru eich ci.
Cwestiynau cyffredin
Darllenwch ein hatebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf am ofal milfeddygol i'ch ci.
Ydych chi eisiau siarad gyda ni?
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm cyfeillgar y Prosiect Gobaith.
© Credyd ffotograff: Olivia Hemingway