Sut gallwn ni helpu
Rydym yn deall y gall biliau milfeddygol fod yn ddrud, yn enwedig os ydych yn ddigartref. Dyna pam yr ydym yn rhedeg ein cynllun milfeddygol. Rydym yn darparu mynediad i ofal milfeddygol am ddim, fel nad oes rhaid i chi boeni am filiau milfeddygol drud.
Gallwn ni eich helpu chi os rydych yn:
- Cysgu allan ar hyn o bryd
- Byw mewn gwasanaeth digartrefedd (e.e. hostel neu lety â chymorth)
- Byw mewn llety dros dro (e.e. gwesty neu lety gwely a brecwast sy’n cael ei ddarparu gan eich cyngor lleol)
- Aros gyda ffrindiau
- Sgwatio
- Byw mewn pabell neu gerbyd (e.e. car neu fan)
- Teithiwr, sydd heb le parhaol i barcio, neu sy’n byw mewn gwersyll ar ochr y ffordd
- Mewn perygl o fod yn ddigartref, fel wedi cael gorchymyn troi allan, gyda dyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent neu’n cael cymorth gan eich awdurdod lleol dan y ddyletswydd 56 diwrnod i atal digartrefedd.
“Mae’n gymaint o faich oddi ar fy ysgwyddau i allu dibynnu ar y Prosiect Gobaith ar gyfer iechyd Matilda.”
Louisa, sydd wedi cofrestru ei chi, Matilda, ar ein Prosiect Gobaith
Os ydych yn byw mewn llety parhaol ond angen cymorth gyda biliau milfeddygol, rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau a all eich cefnogi.
Gallwn dalu am bob triniaeth ataliol ar gyfer eich ci. Mae hyn yn cynnwys microsglodynnu, ysbaddu, triniaethau chwain a dilyngyru, a brechiadau. Yn ogystal, gallwn dalu am y rhan fwyaf o driniaethau hanfodol a brys y gallai fod eu hangen ar eich ci.
Gallwn gefnogi perchnogion cŵn unrhyw le yn y DU.
© Credyd ffotograff: Richard Murgatroyd