Ydych chi’n pryderu am rywun sy’n profi digartrefedd?
Os ydych chi’n pryderu am rywun sy’n profi digartrefedd gyda’i gi, mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi helpu.
- Os yw rhywun yn cysgu allan, cyfeiriwch nhw at StreetLink. Bydd hyn yn eu cysylltu â thîm allgymorth lleol.
- Os ydych yn meddwl bod rhywun mewn perygl enbyd, ffoniwch 999.
Os gwelwch rywun yn cysgu allan gyda’i gi, efallai y byddai’n ddefnyddiol gwybod pa gymorth sydd ar gael.
- Mae llawer o bobl rydym ni'n eu cefnogi yn rhannu cwlwm agos iawn â'u cŵn. Yn aml, bydd eu ci gyda nhw bob awr o’r dydd, yn derbyn gofal a maldod cyson, ac yn mynd am dro yn rheolaidd.
- Efallai y byddwch yn hapus i stopio a chael sgwrs â'r unigolyn, a rhannu trît neu ddau gyda'i gi. Cyn i chi wneud hyn, mae'n bwysig gwirio bod y perchennog yn hapus i chi fynd at ei gi a dweud helo.
- Os hoffai rhywun rydych yn siarad ag ef/hi ddarganfod mwy am y gefnogaeth rydym yn ei gynnig, mae’n bosibl iddyn nhw gysylltu â ni am sgwrs.
- Rydym yn darparu gofal milfeddygol am ddim i berchnogion cŵn sy'n profi digartrefedd. Yn ogystal, mae gennym restr o wasanaethau digartrefedd cyfeillgar i gŵn i helpu pobl a'u hanifeiliaid anwes i ddod o hyd i dai a chymorth.