Trwy ein cynllun milfeddygol, rydym yn darparu mynediad i ofal milfeddygol am ddim i berchnogion cŵn ledled y DU. Rydym yn cefnogi bron i 500 o gŵn, gan ariannu mwy na 1,500 o driniaethau milfeddygol bob blwyddyn.
Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda gwasanaethau digartrefedd trwy ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig, gan ddarparu cefnogaeth bwrpasol am ddim i wasanaethau digartrefedd i ddod yn gyfeillgar i gŵn.
Yn ogystal â chefnogi perchnogion cŵn sy’n profi digartrefedd, a gwasanaethau digartrefedd, rydym hefyd yn gweithio i hyrwyddo’r cwlwm agosrwydd rhwng anifeiliaid a phobl, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cefnogi pobl i aros gyda’u hanifeiliaid anwes.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni neu ein cefnogi, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
© Credyd ffotograff: Olivia Hemingway