Ein Prosiect Gobaith milfeddygol
Mae ein Prosiect Gobaith milfeddygol yn ariannu gofal milfeddygol am ddim i berchnogion cŵn sy’n profi digartrefedd.
Gall hynny gynnwys pobl sy’n:
- Cysgu allan
- Byw mewn gwasanaeth digartrefedd (e.e. hostel neu lety â chymorth)
- Byw mewn llety dros dro (e.e. gwesty neu lety gwely a brecwast)
- Byw mewn prosiect Tai yn Gyntaf
- Aros gyda ffrindiau
- Sgwatio
- Byw mewn pabell neu gerbyd
- Teithiwr, sydd heb le parhaol i barcio, neu sy’n byw mewn gwersyll ar ochr y ffordd
Os ydych yn cefnogi cleient sydd mewn llety parhaol yn dilyn cyfnod o ddigartrefedd, cysylltwch â ni oherwydd efallai y byddwn yn dal i allu helpu.
Gall cŵn sydd wedi cofrestru ar ein Prosiect Gobaith gael gofal milfeddygol am ddim unrhyw le yn y DU. Mewn rhai ardaloedd, mae gennym ni filfeddygfeydd partner lle gall rhywun gael gofal milfeddygol ar gyfer eu cŵn.
Ar gyfer cleientiaid nad ydynt yn byw yn un o'r ardaloedd hynny, byddwn yn dal i ddarparu gofal milfeddygol am ddim, ond bydd mewn milfeddygfa leol, yn dibynnu ar eu hargaeledd a'u capasiti.
Gyda'n gilydd, gallwn atal pobl rhag gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus o fwydo eu hunain neu dalu am ofal milfeddygol.