Pam ddylai fy ngwasanaeth gael ei ardystio gan Croesawu Cŵn?
Mae pob gwasanaeth digartrefedd yn wahanol, ac mae pob ci yn wahanol.
Beth bynnag fo’ch busnes, mae cael eich ardystio drwy ein cynllun Croesawu Cŵn yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i unrhyw wasanaeth digartrefedd.
Dyma rai o’r manteision o weithio gyda ni i gael eich ardystio:
Cyngor arbenigol – mae gennym dimau arbenigol yn Dogs Trust i roi cyngor ar unrhyw beth o ymddygiad cŵn i bolisïau anifeiliaid anwes.
Gofal milfeddyg am ddim – bydd unrhyw gŵn sy’n byw yn eich gwasanaeth yn gallu cael gofal milfeddyg am ddim drwy ein Prosiect Gobaith, gan helpu i sicrhau bod y cŵn sy’n defnyddio eich gwasanaeth yn hapus ac yn iach.
Tîm cefnogol – mae ein tîm Croesawu Cŵn cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych chi drwy gydol y cyfnod rydych chi wedi eich ardystio â ni.
Adnoddau amrywiol – byddwch yn gallu cael gafael ar adnoddau a gwybodaeth am yr holl wahanol agweddau ar gael cŵn yn eich gwasanaeth.
Geriach i gŵn - byddwn yn rhoi pecyn cychwynnol cyflawn i chi o’r holl hanfodion sydd arnoch eu hangen i groesawu eich preswylwyr pedair coes gyntaf.
Tîm profiadol – rydyn ni wedi bod yn rhedeg ein cynllun Croesawu Cŵn ers dros 20 mlynedd. Mae hyn yn golygu bod gennym lawer o brofiad o ddelio â gwahanol sefyllfaoedd.
Cymorth symud ymlaen – byddwn yn darparu adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer cael gafael ar lety sy’n croesawu cŵn yn y sector rhentu preifat drwy ein cynllun Lets with Pets.
Eich manylion ar ein cyfeiriadur ar-lein – byddwn yn eich ychwanegu at ein cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sy’n croesawu cŵn gyda sticer ‘Wedi’i ardystio gan Croesawu Cŵn’ fel bod perchnogion cŵn yn gwybod eich bod wedi gweithio gyda ni i ddatblygu polisïau cyfrifol sy’n addas i gŵn.
Sut mae fy ngwasanaeth yn cael ei ardystio fel un sy’n Croesawu Cŵn?
Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn diwallu anghenion pobl sy'n ddigartref, a'u cŵn, mewn ffordd ddiogel ac ymarferol.