Ynghylch ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig
Ni ddylai unrhyw un gael ei orfodi i ddewis rhwng ei gi a lle diogel i gysgu.
Dyna’r rheswm pam rydym ni’n rhedeg ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig. Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau digartrefedd ar draws y DU i'ch cefnogi i ddod yn gyfeillgar i gŵn.
Drwy ymuno â'n cynllun, byddwch yn ein helpu i gadw pobl a'u hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd. Mae cŵn yn cynnig cariad a chwmnïaeth ddiamod, a all fod yn arbennig o hanfodol i bobl sy’n profi digartrefedd. I lawer o bobl sy'n profi digartrefedd, efallai mai eu cŵn yw'r unig berthynas sefydlog a chadarnhaol sydd ganddynt.
Mae ein gwaith ymchwil gyda Homeless Link yn dangos bod llai na 10% o hosteli yn gyfeillgar i gŵn. Mae hyn yn golygu nad yw llawer o berchnogion cŵn yn gallu cael cymorth a llety hanfodol oherwydd eu cŵn.
Mae ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig yn rhad ac am ddim, yn hygyrch ac wedi’i deilwra i’ch gwasanaeth. Mae’n addas ar gyfer unrhyw wasanaeth digartrefedd, gan gynnwys os ydych yn gweithredu:
- Llety brys
- Llety dros dro neu â chymorth
- Canolfan ddydd neu hwb mynediad
- Gwasanaeth dadwenwyno neu adfer
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod yn gyfeillgar i gŵn. Os ydych eisoes yn derbyn cŵn, byddwn yn eich cefnogi i gryfhau eich polisïau presennol.