Cefnogi perchnogion cŵn sy’n profi digartrefedd
Cymorth i berchnogion cŵn
Rydym yn deall y berthynas arbennig rydych chi a'ch ci yn ei rhannu, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cadw gyda'ch gilydd os ydych chi'n profi digartrefedd. P'un a yw hynny'n golygu eich cefnogi chi gyda gofal milfeddygol am ddim a dod o hyd i wasanaethau digartrefedd sy'n croesawu cŵn, neu roi help llaw i chi gyda chyngor ar sut i ofalu am eich ffrind, byddwn bob amser yma i chi a'ch ci.
Sut rydym ni’n cefnogi gwasanaethau digartrefedd
Ni ddylai unrhyw un gael ei orfodi i ddewis rhwng ei gi a lle diogel i gysgu, ond mae llawer o bobl sy’n profi digartrefedd yn wynebu’r penderfyniad hwnnw. Rydym yn darparu cymorth a chyngor manwl ac am ddim i wasanaethau digartrefedd sy’n dymuno dod yn wasanaethau Croesawu Cŵn ardystiedig. Yn ogystal, rydym yn darparu gofal milfeddygol am ddim i unrhyw berchennog ci sy'n cael ei gefnogi gan wasanaeth digartrefedd.
Gwybodaeth i filfeddygfeydd
Mae ein Prosiect Gobaith milfeddygol yn darparu gofal milfeddygol am ddim i berchnogion cŵn sy’n profi digartrefedd. Rydym yn gweithio gyda milfeddygfeydd ar draws y DU lle gall perchnogion cŵn gael mynediad at ofal allweddol.
Ydych chi’n pryderu am rywun sy’n profi digartrefedd?
Os ydych chi’n pryderu am rywun sy’n profi digartrefedd gyda’i gi, mae gennym ni gyngor am sut y gallwch chi helpu.