Deddf Caethwasiaeth Fodern
Caethwasiaeth Fodern
Yn y Dogs Trust, mae'n bwysig inni ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein polisïau, ein gweithdrefnau a'n mesurau - yn enwedig pan fydd yn fater o amddiffyn pobl. Rydym yn cyhoeddi yma ein hadroddiad ar Gaethwasiaeth Fodern.
Caethwasiaeth Fodern
Cyhoeddir y datganiad hwn o dan ddarpariaeth Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y DU ac sy’n cyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd gudd sy'n cwmpasu caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu mewn pobl. Mae’r Dogs Trust wedi ymrwymo i wella ei safonau gweithredu uchel yn barhaus i fynd i'r afael â chaethwasiaeth a masnachu mewn pobl yn ei busnes a'i chadwyn gyflenwi, ac wrth weithredu'n foesegol a chydag uniondeb yn ei pherthynas fusnes. Nid oes lle i gaethwasiaeth fodern yn ein sefydliad nac yn ein cadwyn gyflenwi, ac mae gennym agwedd dim goddefgarwch tuag ato.
Owen Sharp, Prif Weithredwr